S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Pryd porc

Cynhwysion

  • 1 clof garlleg
  • ½ darn maint bawd sinsir
  • ½ llwy fwrdd saws soy
  • ½ llwy fwrdd saws pysgod
  • 1 llwy de pâst lemongrass
  • 1 llwy de mêl
  • 2 strip fawr bol porc
  • 2 lwy fwrdd finegr gwin reis
  • ¼ llwy de siwgr castir
  • ¼ llwy de halen
  • 1 moronen
  • 3 radis
  • shibwns
  • coriander
  • reis basmati

Dull

  1. Piclwch y bol porc.
  2. Chwipiwch y garlleg a sinsir at ei gilydd mewn bowlen gyda'r saws soy, saws pysgod, pâst lemongrass a mêl.
  3. Ychwanegwch y strips bol porc, gan wneud yn siŵr maen nhw wedi gorchuddio gan y picl.
  4. Rhowch i un ochr am o leiaf 1 awr, ond yn well i adael dros nos.
  5. Cynheswch y gril i'w dymheredd uchaf. I wneud y pickle, chwipiwch y finegr, siwgr a halen at ei gilydd yn bowlen fach yna ychwanegwch y moron a radis.
  6. Leiniwch y gril pan gyda ffoil, gan osod ar y rac uchaf.
  7. Gosodwch y porc ar y rac a griliwch am 15 munud, gan droi drosodd hanner ffordd trwyddo.

Rysáit gan Dan Williams, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Ryseitiau Prynhawn Da

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?