S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Bisgedi caramel

Cynhwysion

  • 350g datys (tua 15)
  • 85g siwgr muscovado
  • 125g menyn
  • 1 llwy de soda pobi
  • 150g blawd gwenith cyflawn
  • 70g ceirch
  • 1 ŵy mawr
  • 1 llwy de sinamon
  • 1 llwy de fanila (essence)

Dull

  1. Cynheswch y ffwrn i 160°c / 140 ffan / Nwy 3.
  2. Torrwch y datys a gosodwch nhw mewn sosban gyda'r siwgr a menyn ar dymheredd cymedrol a throwch nes i'r menyn toddi. Coginiwch wrth droi am 5 munud arall nes mae'r datys yn feddal.
  3. Gosodwch y blawd, ceirch a sinamon mewn i bowlen a chymysgwch. Chwipiwch y ŵy a fanila efo'i gilydd ac ychwanegwch blawd. Arllwyswch dros y cymysgedd datys a chymysgwch yn dda.
  4. Siapiwch y cymysgedd mewn i 12 bel a gosodwch ar dun pobi wedi leinio. Yna gwasgwch y peli ychydig mwy fflat cyn pobi nhw am 12 i 15 munud nes yn euraidd. Gadwch i oeri ar y tun.

Rysáit gan Nerys Howell, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?