S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Reis gyda corgimwch

Cynhwysion

  • 1 llwy fwrdd olew sesame
  • 1 bwnsh shibwns
  • 1 pupur coch
  • 2 clof garlleg
  • ½ tsili coch
  • 250g reis basmati
  • 100g peas sugar snap
  • 175g peas wedi rhewi
  • 150g corgimwch
  • dyrned fawr o fresych neu kale
  • 4 ŵy
  • 1 llwy fwrdd bara laver
  • 1 llwy fwrdd saws soy
  • 1 llwy fwrdd hadau sesame

Dull

  1. Cynheswch wok ac ychwanegwch yr olew.
  2. Sleisiwch y shibwns a phupur cyn troi a ffrio ar y wok am gwpwl o funudau.
  3. Gratiwch y garlleg, torrwch y tsili ac ychwanegwch at y shibwns,
  4. Yna torrwch y bresych a ffriwch am gwpwl o funudau arall.
  5. Torrwch y pys sugar snap ac ychwanegwch nhw i'r wok wrth ochr y reis, corgimwch a phys cyn coginio trwyddo am funud.
  6. Chwipiwch y wyau efo'r bara laver a saws soy, yna ychwanegwch i'r reis a ffrio am 2-3 munud. Ychwanegwch sesnin.

Rysáit gan Nerys Howell, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Ryseitiau Prynhawn Da

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?