S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Porc gyda madarch

Cynhwysion

  • 1 lwyn porc
  • ½ winwns gwyn
  • 1 clof garlleg
  • 100g madarch
  • 25g mwstard Cymreig
  • 50ml brandi
  • 100ml stoc porc neu gyw iâr
  • 50ml hufen dwbl

Dull

  1. Torrwch y porc mewn i ddarnau 2-3 cm, yna ychwanegwch sesnin efo halen a phupur.
  2. Cynheswch ffrimpan i dymheredd cymedrol. Ychwanegwch olew.
  3. Ffriwch y porc ar un ochr nes mae'n euraidd. Trowch y porc drosodd a ychwanegwch winwns a madarch. Coginiwch am tua 2 munud.
  4. Unwaith i'r winwns a madarch meddalu, ychwanegwch y garlleg a choginiwch am 1 munud.
  5. Ychwanegwch y brandi a mwstard. Coginiwch y brandi nes iddo fe haneru, yna adiwch y stoc a hufen.
  6. Trowch i ffrimpan lawr i dymheredd isel a gadwch am 3-4 munud nes i'r saws mynd yn fwy trwchus.
  7. Bydd y porc yn barod.

Rysáit gan Dan ap Geraint, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Ryseitiau Prynhawn Da

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?