S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Coes cig oen

Cynhwysion

I baratoi'r oen:

  • 4 coes oen (shank)
  • 3 clof garlleg
  • 4 sbrig rhosmari ffres

I goginio'r oen:

  • 3 llwy fwrdd olew olewydd
  • 4 sibolsyn banana
  • 3 clof garlleg
  • 300ml gwin coch
  • 2 sbrig rhosmari ffres
  • 2 sbrig teim
  • 750ml stoc cyw iâr
  • halen a phupur

Am y tatws stwnsh:

  • 1kg tatws king Edward
  • pinsiad halen
  • 75-110ml olew olewydd
  • halen a phupur
  • 200g cennin
  • 200g caws Caerffili

Dull

  1. Cynheswch y ffwrn i 140°c | 280°f | Gas 1.
  2. I baratoi'r oen, wnewch 3 toriad bach mewn bob coes oen.
  3. Casglwch ddarn o arlleg a rhosmari a gosodwch nhw mewn un o'r toriadau.
  4. I goginio'r coesau oen, cynheswch ffrimpan nes mae'n boeth a gosodwch i lwy fwrdd o olew olewydd yn y pan. Ychwanegwch y coesau a ffriwch ar y ddwy ochr am 1 munud nes iddyn nhw frownio.
  5. Yn y cyfamser, cynheswch dish caserol gall mynd yn y ffwrn yna ychwanegwch mewn gweddill yr olew olewydd, sibols a garlleg.
  6. Ffriwch y garlleg a sibols am tua 2 i 3munud, nes iddyn nhw feddalu.
  7. Ychwanegwch gwin coch a dewch i'r berw pwynt.
  8. Adiwch y rhosmari, teim, ffa menyn a finegr gwin coch a dychwelwch i'r berw pwynt.
  9. Gosodwch yr oen mewn i'r saws a gorchuddiwch gyda stoc cyw iâr. Ychwanegwch sesnin.
  10. Mudferwch, gorchuddiwch a gosodwch yn y ffwrn i goginio am 3 i 4 awr, neu nes mae'r cig yn feddal a chwympo bant yr asgwrn.
  11. Ar gyfer y tatws stwnsh, gosodwch nhw mewn sosban fawr a gorchuddiwch gyda dŵr. Ychwanegwch binsiad halen, gosodwch ar yr hob a berwch.
  12. Mudferwch am 10 – 15 munud nes yn dyner.
  13. Ychwanegwch y cennin a choginiwch am 5 munud arall.
  14. Draeniwch yn dda a dychwelwch i'r sosban ar wres isel am ambell eiliad i waredu unrhyw leithder.
  15. Gan ddefnyddio teclyn "masher", potsiwch y tatws yn dda, gan ychwanegu'r olew olewydd i adio blas i'r tatws. Ychwanegwch halen a phupur. Yna adiwch y caws a chymysgwch yn drylwyr.
  16. I gwaenu, tynnwch y coesau oen o'r saws a gosodwch ar 4 plât.
  17. Chwipiwch y menyn mewn i'r saws a throwch.
  18. Blaswch y pryd i wirio bod y sesnin yn iawn.
  19. Arllwyswch y saws ar draws y coesau oen a gwaenwch gyda'r tatws.

Rysáit gan Dan Williams, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?