Neidio i'r prif gynnwys
home
Hafan S4C
S4C Clic
Newyddion
Amserlen Teledu
English
Golau
Tywyll
Pori
Pori
Adloniant
Chwaraeon
Cerddoriaeth
Drama
Ffeithiol
Cyw
Stwnsh
Appearance
Golau
Tywyll
English
home
Hafan Cegin
Llysieuol
Cig
Gan Colleen Ramsey
Cacen caws siocled
Gan
Catrin Thomas
Hawdd
Llysieuol
Cynhwysion
100g bisgedi "chocolate chip"
50g menyn
250g caws hufennog
25g o siwgr eisin
140g past siocled cnau cyll
½ llwy fwrdd powdr coco
75g saws siocled
30ml hufen dwbl
40g cnau cyll
Dull
Blitsiwch y bisgedi mewn prosesydd bwyd.
Ychwanegwch fenyn wedi toddi yna blitsiwch eto.
Arllwyswch y bisgedi mewn i 2 tun "non stick". Mae angen papur pobi i leinio'r 2 tun.
I wneud y cynnwys gosodwch y caws hufen a siwgr eisin mewn bowlen a chwipiwch efo Chwisg trydanol.
Ychwanegwch y past siocled a phowdr coco a chwipiwch nes mae'n feddal.
Gorchuddiwch y gwaelod bisgedi efo'r cymysgedd gan ddefnyddio cyllell pallet.
Gorchuddiwch a gadael i oeri am 3 awr.
I wneud y topping, gosodwch yr hufen a siocled mewn bowlen gwydr dros sosban o dwr mudferw.
Gadwch i doddi a rhannwch rhwng y 2 cacen caws. Yna ychwanegwch y cnau cyll ar ben.
Gadwch i oeri yn yr oergell am 1 awr.
Rysáit gan Catrin Thomas, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Pwdins Prynhawn Da
Panna cotta siocled gwyn
Darllen mwy
Torth banana a siocled
Darllen mwy
Pancws banana fegan
Darllen mwy