S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Pwdin bara menyn

Cynhwysion

  • ½ torth bara gwyn (heb y crwst)
  • 50g menyn
  • tun o gellyg
  • 250ml hufen dwbl
  • 100g siwgr muscovado
  • 4 ŵy
  • 25g siwgr demerara

Dull

  1. Seimiwch llestr sy'n addas ar gyfer y ffwrn gyda menyn.
  2. Gwasgarwch gweddill y menyn dros y bara, yna torrwch mewn i trionglau.
  3. Leiniwch ychydig o'r llestr gyda ychydig o'r bara yna topiwch efo'r gellyg.
  4. Gorchuddiwch y gellyg efo gweddill y bara.
  5. Mewn bowlen fawr cymysgwch y llaeth, hufen, siwgr muscovado a wyau. Cymysgwch yn dda, yna arllwyswch dros y bara.
  6. Gadwch i socian am 20 munud gan ychwanegu mwy o llaeth os bydd angen.
  7. Rhowch y siwgr demerara dros top y pwdin.
  8. Pobwch ar dymheredd 160°c am 30-35 munud nes mae'n euraidd

Rysáit gan Dan ap Geraint, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Ryseitiau Prynhawn Da

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?