S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Marmaled seville

Cynhwysion

  • 1.4kg oren seville
  • 1 neu 2 lemwn
  • 2 litr o dŵr
  • 1.7kg – 2.2kg siwgr gronynnog
  • 7 bel o stem sinsir

Dull

  1. Gosodwch y ffrwyth mewn sosban fawr a gorchuddiwch gyda dŵr berw. Mudferwch gyda'r clawr arno am tuag awr nes mae'r ffrwyth yn feddal. Codwch y ffrwythau a draeniwch i ffwrdd y dŵr, gan gadw'r sudd.
  2. Hanerwch y orenau a lemwn a sbydwch allan y ffrwyth (a flesh) a draeniwch unrhyw sudd.
  3. Torrwch i fyny'r croen/peel i'r trwch perthnasol a gwaredwch y lemwn.
  4. Arllwyswch y sudd i gyd mewn sosban fawr. Gosodwch y sieve dros y pan a gwasgwch y pulp mewn i'r sosban.
  5. Ychwanegwch y siwgr (rhwng 1.7kg a 2.2kg) a throwch dros dymheredd isel nes mae'n toddi. Ychwanegwch y croen a dewch y marmaled i'r berw pwynt. Torrwch fyny'r sinsir ac ychwanegwch i'r cymysgedd.
  6. Berwch am 20 – 30 munud nes i'r marmaled "setio". Gadwch i oeri am 5-8 munud.

Rysáit gan Nerys Howell, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Ryseitiau Prynhawn Da

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?