S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Twrci Nadolig

Cynhwysion

  • 1 twrci cyfan
  • 2 winwns
  • 2 moron
  • 1 seleri
  • 1 bwlb garlleg
  • 1 cenhinen
  • 1 saets ffres (sage)
  • 170g cymysg stwffin
  • 250g briwfwyd porc
  • dwrn o fricyll sych
  • pinsiad nytmeg wedi'i gratio
  • halen
  • 250g menyn
  • 2 clementin wedi haneri
  • 1 lemwn
  • 2 ciwb stoc cyw iâr
  • 2 llwy fwrdd saws llugaeron
  • 2 llwy fwrdd blawd plaen
  • 1.5 ltr stoc cyw iâr

Dull

  1. Torrwch y winwns, moron, cennin a seleri yna rhowch yn dun.
  2. Gosodwch y twrci mewn a stwffiwch y gwagle gyda'r clementins, bwlb garlleg wedi torri yn hanner a'r saets.
  3. Am y stwffin, cymysgwch y cymysg stwffin efo'r briwfwyd porc, bricyll a 250ml sudd afal. Cymysgwch at ei gilydd a gosodwch mewn gwddf y twrci.
  4. Meddalwch y menyn nes mae'n hawdd gwasgaru, yna rwbiwch ar draws y twrci i gyd.
  5. Gratiwch drosodd y nytmeg + croen y lemwn a gwasgarwch drosodd y ciwbiau stoc.
  6. Lapiwch yn ffoil, a phobwch ar dymheredd ffwrn 180°c am 20 munud i bob 500g o dwrci.
  7. Tynnwch i ffwrdd y ffoil am y 45 munud olaf i liwio'r croen.
  8. Ar ôl coginio gadwch yn y ffwrn am o leiaf 1 awr.

Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Rysáit gan Shane James.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?