Cynheswch y popty i 190°C / marc nwy 5. Brwsiwch hambwrdd pobi gyda
braster.
Hidlwch y blawd a'r halen gyda'i gilydd, yna rhwbiwch y braster i
mewn. Ychwanegwch y siwgr a'r cardamom a chymysgwch yn drylwyr. Curwch yr
wy a'i gymysgu i ffurfio toes caled; ychwanegwch ychydig o laeth os yw'r
gymysgedd yn rhy sych.
Trowch y toes allan ar fwrdd wedi'i flawdio a'i siapio'n rolyn hir.
Torrwch ddarnau tua 2cm o drwch a'u gosod ar yr hambwrdd pobi. Gwnewch
dwll yn y canol a llenwch gyda jam mafon. Brwsiwch ymylon pob un gyda
llaeth a'u pobi am 15–20 munud nes eu bod yn frown euraidd.
Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da