Tynnwch y cig o'r oergell o leiaf 30-45 munud o flaen llaw.
Pwyswch y cig i wybod pa mor hir i'w goginio. Fe fyddwch chi angen 30 munud i bob 500g. Fe ddylai 40 munud ychwanegol roi cig canolig - gwaedlyd/canolig i chi.
Rhowch olew mewn padell ffrio, rhowch sesnad ar y cig a'i liwio yn y badell. Byddwch yn ofalus wrth droi'r cig.
Wedyn, rhowch y cig mewn tun pobi gyda'r sudd o'r badell a'i rostio yn y ffwrn am 4 - 4 ½ awr. Mae'n syniad da defnyddio thermomedr ar gyfer cigoedd i wneud yn siwr bod y cig wedi ei goginio yn berffaith.
Wedyn, mesurwch dymheredd y cig.Bydd angen bod rhwng 55˚C-60˚C.
Gadewch y cig i orffwys am 1 awr cyn ei dorri.
Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Parti Bwyd Beca.