Cynheswch y popty i 160°C (popty ffan). Irwch y tun yn ysgafn a’i leinio â phapur pobi.
Stwnsiwch ddau o’r bananas gyda fforc a sleisiwch y llall yn ei hanner ar ei hyd.
Curwch y menyn a’r siwgr gyda’i gilydd nes ei fod yn ysgafn ac yn hufennog. Ychwanegwch yr wyau wedi’u curo, y blawd, y powdr pobi a’r sinamon, yna cymysgwch.
Ychwanegwch y surop masarn, y fanila a’r banana wedi’u stwnshio. Cymysgwch y cnau pécan wedi’u torri’n fras i mewn a thywalltwch y cymysgedd i’r tun parod. Gosodwch y banana wedi’i sleisio ar ei ben gyda’r ochr wedi’i thorri yn wynebu i fyny. Pobwch am 1 awr neu nes bod sgiwer yn dod allan yn lân.
Ar ôl pobi, rhowch y tun ar rac oeri a diferwch ychydig o surop masarn dros y dorth. Gadewch iddo oeri ychydig, yna tynnwch o’r tun a gadewch iddo oeri’n llwyr.