Mewn powlen rhowch y blawd, halen, powdr pobi a'r iogwrt. Ffurfiwch does a'i dylino am ryw 10 munud ar fwrdd gyda blawd. Ychwanegwch mwy o flawd os mae'n dechrau sticio.
Roliwch allan i gylch tenau a rhoi'r hash corn-bîff ar ei ben. Plygwch y toes fewn ar ei hun ac wedyn gwthiwch i'w le a'i rolio yn ysgafn.
Twymwch badell ffrio fawr ar dymheredd canolig a chwistrelli olew neu roi digon o olew i osgoi'r toes i lynu. Gadwch y toes i goginio ar bob ochr am ryw 5 munud yr un.
Toddwch bach o fenyn ag ychwanegwch bach o halen a phersli. Pan mae'r bara yn barod rhowch ar fwrdd torri a brwsiwch gyda'r menyn. Gadewch i orffwys am gwpl o funudau cyn ei dorri a'i weini.
Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).