Cynheswch y popty i 200°C ffan / 220°C confensiynol.
Cymysgwch y blawd, y bicarbonad soda a’r halen mewn powlen fawr.
Ychwanegwch y caws wedi’i gratio a’r sifys a’u cymysgu.
Ychwanegwch y rhan fwyaf o’r llaeth enwyn a chymysgwch yn ysgafn â fforc neu’ch dwylo. Ychwanegwch ragor o laeth yn ôl yr angen nes bod gennych does meddal, ychydig yn ludiog. Peidiwch â’i dylino fel toes bara burum.
Ar arwyneb ag ychydig o flawd arno, siapiwch y toes yn dorth gron. Rhowch ar hambwrdd pobi wedi’i leinio â phapur pobi a thorrwch groes ddofn yn y top.
Ysgeintiwch ychydig o gaws ychwanegol drosto os ydych yn hoffi blas caws cryf ar eich bara!
Pobwch am 30–35 munud, nes ei fod yn euraidd ac wedi coginio drwyddo. Dylai’r gwaelod swnio’n wag wrth ei dapio. Gadewch iddo oeri ar rac weiren cyn ei sleisio.