Arllwyswch y wynnwy i mewn i bowlen lân a’u chwisgo nes bod pigau stiff (stiff peaks) yn ffurfio. Yna, ychwanegwch y siwgr a’r almonau mâl yn raddol a chymysgwch i mewn y gwirod neu’r rhinwedd.
Ffurfiwch y gymysgedd yn beli bach (tua 15) gan ddefnyddio llwy de a’u rholio mewn siwgr eisin.
Leiniwch ddau hambwrdd pobi mawr â phapur pobi a gosodwch y peli 2cm ar wahân. Powdrwch â rhagor o siwgr eisin a phobwch am 13–15 munud nes eu bod yn euraidd golau ond yn dal yn feddal. Gadewch iddynt oeri ar yr hambyrddau am 10 munud ac yna eu trosglwyddo i rac gwifren i oeri’n llwyr. Storiwch mewn cynhwysydd aerglos am hyd at 10 diwrnod.
Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.