Cynheswch y ffwrn i 180°C a leiniwch tun sgwâr 20cm gyda dyfnder o 5cm
Toddiwch y siocled gyda’r menyn a gadewch i oeri
Chwisgiwch yr wyau a’r siwgr gyda’i gilydd mewn powlen arall
Arllwyswch y cymysgedd siocled oer i’r cymysgedd wyau a’i blygu’n ysgafn
Ychwanegwch y blawd a’r powdr coco, a’i blygu i mewn i’r cymysgedd siocled. Arllwyswch i’r tun parod a’i bobi am 25 munud. Ychwanegwch sglodion siocled gwyn. Ar adeg y Nadolig, maen nhw’n edrych yn hyfryd gyda cheirios coch wedi’u cadw. Gallwch hyd yn oed ychwanegu malws melys bach – gwnewch y rysáit yn un eich hun drwy arbrofi gyda’r ychwanegiadau olaf.
Mae’r browni wedi’u gwneud pan mae’r top yn sgleiniog ac yn dechrau tynnu oddi wrth ochrau’r tun
Torrwch yn bedwar chwarter, yna torrwch bob chwarter yn bedwar. Torrwch bob sgwâr yn ei hanner i greu trionglau. Maen nhw’n gyfoethog – mwynhewch, ond peidiwch â gorwneud e!!
Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.