Brownies Siocled Moethus
Cynhwysion
- 200g Menyn heb halen
- 100g siocled
- 100g siocled tywyll
- 250ml stowt
- 300g Siwgr
- 3 wy
- ½ llwy de halen bras
- 100g blawd plaen
- 40g powdr coco
- 1 llwy de fanila
- Pot bach saws caramel / tin caramel tew.
Dull
- Rhowch yr stowt mewn sosban fach a’i godi i ferwi ac yna mudferwi am tua 10 munud nes wedi gostwng i hanner yr hylif. Gadewch iddo oeri.
- Rhowch yr menyn a’r siocled mewn powlen gwydr dros sosban o ddŵr berwedig, gadewch iddo doddi, cymysgwch yn dda.
- Roi’r siwgr a’r wyau mewn powlen a defnyddio chwisg trydan, cymysgwch yr cynhwysion nes yn drwchus- am tua 5 munud.
- Cymysgwch yr gymysgfa siocled i fewn i’r wyau a’r siwgr, yr stowt, fanila, halen – cymysgu’n dda ac yna troi I fewn yr blawd a’r coco.
- Ei droi i dun 20cm wedi ei leinio a papur gwrthsaim, coginio am tua 35-40 munud.
- Yna rhowch haen o’r caramel ar yr wyneb, gadewch iddo oeri a gweinwch gyda hufen ia neu hufen a mwy o’r caramel.
Rysait gan Elwen Roberts ar gyfer Prynhawn Da
Instagram - elwen.roberts