Cegin S4C

Cegin S4C

Byrgyrs Corbwmpen a Ffeta

Cynhwysion

  • 400g corbwmpenni
  • 1 llwy de halen
  • 70g pys wedi’u rhewi
  • 60g blawd plaen
  • ½ llwy de powdr codi
  • 2 ŵy
  • 60g caws ffeta
  • 4 shibwnsyn
  • 2 lwy de dil
  • ½ llwy de darnau tsili sych

Dull

  1. Gratiwch y corbwmpenni ‘n fras a’u rhoi mewn colandr dros fowlen. Ysgeintiwch yr halen drostynt, cymysgwch yn dda a’u gadael am 30 munud i dynnu’r dŵr allan. Gwasgwch y corbwmpenni ‘n drylwyr nes bod y rhan fwyaf o’r dŵr wedi dod allan.
  2. Rhowch y pys mewn powlen fach a thywalltwch ddŵr berwedig drostynt. Gadewch am 2 funud, yna draeniwch.
  3. Hidlwch y blawd a’r powdr codi i bowlen fawr a gadewch twll yn y canol. Ychwanegwch yr wyau wedi’u curo a chymysgwch yn raddol, gan dynnu’r blawd i mewn, nes bod gennych gytew llyfn. Ychwanegwch y corbwmpenni, y pys, y ffeta wedi’i friwsioni, y shibwns, y dil a’r darnau tsili. Cymysgwch yn dda.
  4. Cynheswch badell ffrio fawr ac ychwanegwch ychydig o olew. Rhowch dair neu bedair llwyaid fawr o’r cymysgedd yn y badell, gan adael bwlch rhyngddynt a’u gwastatáu ychydig â chefn y llwy. Ffriwch am 3 munud bob ochr nes eu bod yn euraidd ac yn grensiog. Trosglwyddwch i blât cynnes ac ailadroddwch gyda gweddill y cymysgedd, gan ychwanegu rhagor o olew os oes angen.

Rysait Nerys Howell

Instagram - nerys_howell