Cegin S4C

Cegin S4C

Cacen Gaws Bisgedi Jaffa

Cynhwysion

  • 1 pecyn jeli oren
  • 400ml dŵr
  • 300g bisgedi digestives
  • 150g menyn
  • 500g caws hufennog
  • 100g siwgr eisin
  • Naddion croen 1 oren
  • 300ml hufen

Sglein Siocled

  • 100ml hufen
  • 100g siocled tywyll

I addurno:

  • 12 bisged jaffa
  • Ychydig hufen

Dull

  1. Yn gyntaf gosodwch y ciwbiau jeli mewn dysgl ac ychwanegwch ddŵr berw iddynt i doddi yna fewn a 200ml o ddŵr oer. Arllwyswch i bocs plastig wedi leinio a chling len tua  16cm o faint , gosodwch yn yr oergell i setio.
  2. Toddwch y menyn mewn sosban yna malwch y bisgedi mewn prosesydd bwyd, gosodwch mewn powlen, yna ychwanegwch y menyn.
  3. Gosodwch mewn tin maint 21cm wedi leinio a phapur gwrthsaim a gwasgaru i greu gwaelod y gacen gaws.
  4. I greu y gymysgedd caws, gosodwch y caws hufennog siwgr eisin a chroen oren mewn powlen a cyfuno, chwyrliwch yr hufen yn bigau meddal a plygwch i’r gymysgedd caws.
  5. Gwasgarwch 1/3 or gymysgedd dros y crwst bisgedi yna rhai rhyddhau y jeli or twb ac yn ofalus gosodwch y jeli ar y gymysgedd caws, a gwasgaru y llenwad amgylch a drosodd yna i’r oergell am tua 3 awr i setio.
  6. Gosodwch yr hufen mewn sosban i ddod i dymheredd o dan pwynt berwi. Yna ewch ati i ddarnio y siocled a gosod mewn powlen yna arllwyswch yr hufen drosto gadewch am tua 5 munud yna cymysgwch y siocled iddo , gadewch am tua 10 munud i oeri ychydig .
  7. Gwasgarwch y sglein siocled dros y gacen gaws a gadewch i setio. Dewch a'r gacen gaws o’r tin a gwaredwch y papur , gosodwch ar blât a addurno gyda rhos glymau hufen a bisgedi jaffa .

Rysait Gareth Richards ar gyfer Prynhawn Da.
Instagram - cegin_gareth