Cegin S4C

Cegin S4C

Cacen Gaws Ysgawen a Leim

Cynhwysion

Y llenwad:

  • 500g caws mascarpone
  • 800g caws hufen meddal
  • 5 llwy fwrdd cordial ysgawen
  • 1 leim (sudd a naddion croen)
  • 100g siwgr eisin
  • 4 deilen gelatin

Gwaelod y bisgedi:

  • 200g bisgedi sinsir (wedi’u malu)
  • 75g menyn (wedi toddi)

Y Jeli

  • 4 leim
  • 50g siwgr mân
  • 4 llwy fwrdd cordial ysgawen
  • 125ml dŵr

Dull

  1. Malwch y bisgedi a’u rhoi mewn powlen. Ychwanegwch y menyn wedi’i doddi a chymysgwch yn dda.
  2. Rhowch y cymysgedd yng ngwaelod ychydig o jariau jam neu mewn un tun mawr, yna gwasgwch i lawr yn gadarn i ffurfio gwaelod gwastad.
  3. Mwydwch y dail gelatin mewn powlen o ddŵr oer am tua 5 munud, nes eu bod yn feddal.
  4. Mewn sosban fach, cynheswch y cordial blodau ysgawen a’r sudd leim nes ei fod yn mudferwi. Draeniwch y gelatin a’i ychwanegu at y sosban. Cymysgwch nes bod y gelatin wedi toddi’n llwyr.
  5. Cymysgwch y caws hufen, y mascarpone a’r siwgr nes eu bod yn llyfn. Mae cymysgydd trydan yn gwneud y gwaith hwn yn haws. Ychwanegwch y cymysgedd gelatin a chymysgwch yn dda.
  6. Rhowch y llenwad hufen dros waelod y bisgedi a’i roi yn yr oergell i oeri a setio.
  7. I wneud y jeli blodau ysgawen
  8. Mwydwch 4 deilen gelatin arall mewn powlen o ddŵr oer.
  9. Mewn sosban fach, ychwanegwch sudd y 4 leim, 50g o siwgr mân, 4 llwy fwrdd o gordial blodau ysgawen a 125ml o ddŵr. Dewch â’r cymysgedd i fudferwi.
  10. Ychwanegwch y dail gelatin wedi’u meddalu a’u draenio, a chymysgwch nes eu bod wedi toddi’n llwyr.
  11. Arllwyswch y jeli dros y gacen gaws a’i rhoi yn yr oergell dros nos i setio.
  12. Addurnwch ben y gacen gaws gyda blodau ysgawen cyn ei gweini.

Rysait gan Lisa Fearn ar gyfer Prynhawn Da.

Instagram - lisafearncooks