Cegin S4C

Cegin S4C

Cacen Iogwrt, Lemwn a Mwyar

Cynhwysion

  • 450g iogwrt Groegaidd naturiol
  • 200g almonau mâl
  • 200g blawd codi
  • 200g siwgr mân
  • 1½ llwy de powdr codi
  • 3 llwy fwrdd hadau pabi
  • 4 ŵy
  • 2 lemwn heb eu cwyro (naddion croen a sudd)
  • 250g llus /mwyar duon
  • 50g siwgr eisin

Dull

  1. Leiniwch dun pobi neu rhostio 30cm × 20cm gyda phapur pobi.
  2. Cynheswch y popty i 180°C ffan / marc nwy 6.
  3. Arllwyswch y iogwrt i bowlen gymysgu, yna golchwch a sychwch y pot. Llenwch y pot ag almonau mâl a’u hychwanegu at yr iogwrt. Llenwch y pot gyda’r blawd a’i ychwanegu, yna hanner llenwch y pot â siwgr a’i arllwys dros y cynhwysion eraill.
  4. Ychwanegwch y hadau pabi, croen y 2 lemwn a’r wyau wedi’u curo. Cymysgwch bopeth nes nad oes unrhyw lympiau.
  5. Plygwch dri chwarter y ffrwythau i mewn yn ysgafn, yna arllwyswch y cytew i’r tun wedi’i baratoi a gwasgarwch weddill y ffrwythau dros yr wyneb. Pobwch am 45 munud nes ei fod yn euraidd.
  6. Cymysgwch y siwgr eisin â’r sudd lemwn i wneud eisin tenau. Unwaith y bydd y gacen wedi oeri ychydig, arllwyswch yr eisin drosti a’i haddurno ag almonau wedi’u hollti os dymunwch.

Rysait Nerys Howell

Instagram - nerys_howell