Cegin S4C

Cegin S4C

Cacen Llus

Cynhwysion

  • 220g iogwrt
  • 120ml olew olewydd
  • 2 ŵy mawr
  • 1 llwy de fanila
  • 175g siwgr
  • 1/2 llwy de halen
  • 2 lwy de powdr pobi
  • 180g blawd codi
  • 1–2 llwy fwrdd croen lemwn
  • 1 cwpan llus

Sglein Lemwn

  • 120g siwgr eisin
  • 2 lwy fwrdd sudd lemwn

Dull

  1. Mewn powlen fawr, chwisgiwch yr iogwrt, yr wyau, yr olew olewydd a'r fanila nes eu bod yn llyfn.
  2. Ychwanegwch y siwgr a chymysgwch yn dda iawn am tua 2 funud.
  3. Cymysgwch yr halen a thaenwch y powdr pobi i mewn, yna ychwanegwch y blawd a chwisgiwch nes bod y gymysgedd yn llyfn. Os yw'r gymysgedd yn rhy drwchus, ychwanegwch ychydig mwy o iogwrt neu laeth.
  4. Plygwch y llus i mewn yn ofalus, yna arllwyswch y gymysgedd i dun torth sydd wedi'i leinio neu wedi'i iro.
  5. Pobwch ar 160°C (popty ffan) am 50–60 munud. Gorchuddiwch y deisen â ffoil ar ôl tua 30 munud os yw'n dechrau brownio'n rhy gyflym.
  6. Gadewch i'r deisen oeri'n llwyr.

    I Orffen

  7. Cymysgwch y siwgr eisin gyda'r sudd lemwn nes cael eisin llyfn. Ychwanegwch ychydig mwy o sudd lemwn os oes angen i gael y cysondeb cywir, yna diferwch dros y deisen wedi iddi oeri.

Rysait Lisa Fearn ar gyfer rhaglen Prynhawn Da.

Instagram - lisafearncooks