Amser coginio: tua 15–20 munud
Cynheswch y popty ymlaen llaw i 170°C.
- Pwyswch yr holl gynhwysion a’u rhoi mewn powlen fawr, yna curo nes eu bod wedi cymysgu’n dda. Mae cymysgydd trydan yn gwneud hyn yn haws, ond gallwch ddefnyddio llwy bren hefyd. Arllwyswch y gymysgedd i mewn i ddwy dun 23cm. Torrwch sleisys tenau o oren a’u trefnu ar ben y gacen.
- Pobwch yng nghanol y popty wedi’i gynhesu ymlaen llaw am tua 20–25 munud neu nes bod y gacen yn gadarn yn y canol ac yn sbringio’n ôl pan gaiff ei phwyso’n ysgafn gyda bys.
- Ar ôl coginio, gadewch iddi oeri yn y dun am ychydig funudau, yna ei chodi allan o’r dun.
I wneud yr eisin menyn sitrws, curwch y menyn a’r siwgr eisin mewn powlen nes cael cysondeb cadarn, yna ychwanegwch y croen oren a’r echdynnyn oren. Rhowch hwn dros y gacen, neu defnyddiwch ddiferiad o sudd oren ffres a chroen oren gyda 2 lwy fwrdd o siwgr mân.
Rysait Lisa Fearn ar gyfer Prynhawn Da
Instagram: lisafearncooks