Cacenau Siocled a Banana
Cynhwysion
- 2 banana aeddfed
- 100g siwgr mân
- 100g menyn meddal
- 2 ŵy
- 1 llwy de fanila
- 175g blawd codi
- 25g powdr coco
- ½ llwy de powdr codi
- 100g darnau siocled
Dull
- Cynheswch y popty i 180°C (ffan) a leiniwch dun cacennau 12 twll gyda chasys papur.
- Stwnsiwch y bananas mewn powlen. Chwisgiwch y siwgr, y menyn wedi’i doddi, yr wyau a’r fanila i mewn.
- Ychwanegwch y blawd, y coco a’r powdr codi, a’u plygu’n ysgafn i mewn nes eu bod wedi’u cymysgu.
- Plygwch y rhan fwyaf o’r darnau siocled i mewn. Rhannwch y cymysgedd rhwng y casys a gwasgarwch weddill y siocled dros y top.
- Pobwch am 20–25 munud, nes eu bod wedi codi ac yn sbringio’n ôl wrth eu cyffwrdd.
Rysait Michelle Evans-Fecci
Instagram - bakesbymichelle