Cegin S4C

Cegin S4C

Cacennau Caws

Cynhwysion

  • 80g menyn
  • 150g bisgedi digestive
  • 300g caws hufen
  • 60g siwgr eisin
  • 1 llwy de past ffa fanila
  • 150ml hufen dwbl
  • sudd lemwn

Ffrwythau wedi’u Rhostio

  • 2 eirin
  • 6 mefus
  • Dwrn o lus (blueberries)
  • Ceirios
  • Sudd ½ oren
  • Ychydig o jin (dewisol)
  • Diferion o fêl

I Weini

  • 12 cas myffin
  • Blodau bwytadwy
  • Mefus siâp calon
  • Mafon wedi’u rhewi-sychu

Dull

  1. Cynheswch y ffwrn i 180°C ffan. Ar gyfer y ffrwythau, rhowch y ffrwythau wedi’u torri mewn dysgl sy’n addas ar gyfer gwres, ynghyd â’r sudd oren, y jin a’r mêl. Rhostiwch am 10–15 munud nes bod y ffrwythau wedi meddalu ond yn dal i gadw eu siâp, yna gadewch i oeri.
  2. Ar gyfer y gwaelod, malwch y bisgedi’n fân a’u cymysgu gyda’r menyn wedi’i doddi nes ei fod yn edrych fel tywod gwlyb. Rhowch gasys myffin mewn tun cacennau bach 12 twll a rhannwch y gwaelod bisgedi rhwng y casys papur, gan wasgu’n gadarn.
  3. Ar gyfer y llenwad, chwisgwch y caws hufen, y siwgr, y fanila a’r hufen nes ei fod yn llyfn. Ychwanegwch y sudd lemwn a chymysgwch yn dda.
  4. Llwywch neu bibellwch y llenwad ar ben y gwaelodion bisgedi a llyfnhau’r topiau. Oerwch yn yr oergell am ychydig oriau, dros nos yn ddelfrydol.
  5. I weini, llwywch y ffrwythau rhost wedi oeri ar ben pob caws-cacen a diferwch y sudd drosodd o’r ddysgl. Gorffennwch gyda mefus siâp calon, mafon wedi’u rhewi-sychu a blodau bwytadwy.

Rysait Michelle Evans-Fecci - Prynhawn Da

 

Instagram - bakesbymichelle