Cegin S4C

Cegin S4C

Cacennau Pysgod Tai

Cynhwysion

  • 200g pysgod gwyn
  • 2 shibwns
  • 1 llwy fwrdd dail coriander
  • 1 llwy fwrdd past cyri
  • sudd leim
  • 1 chili coch
  • olew

     

  • Saws ciwcymbr
  • 5cm ciwcymbr
  • 2 shibwns
  • 1 moron
  • 1 chilli
  • 1 llwy de sinsir
  • 1 llwy fwrdd cnau
  • 1 llwy fwrdd siwgwr brown
  • 4 llwy fwrdd finegr
  • 1 llwy fwrdd saws soi
  • 1 llwy fwrdd olew

Dull

  1. Gosodwch y pysgod, coriander, sudd, shibwns, past chilli, ac ychydig o halen mewn prosesydd bwyd a malwch i greu ansawdd briwgig, gosodwch mewn powlen .
  2. Ffurfiwch yn gacennau bychan tua 1 llwy fwrdd yr un gan wasgu i ffurfio.
  3. Gosodwch ar hambwrdd gyda phapur gwrthsaim tua 8 ohonynt yna i'r oergell am ychydig .
  4. I greu'r saws gosodwch y cucumber shibwns, moron, chilli sinsir, ar gnau mewn prosesydd bwyd a malu yn fan. Gosodwch mewn powlen. Nesaf rhaid cyfuno'r siwgr ar finegr i doddi yna ychwanegu i'r llysiau gyda'r saws soy ar olew.
  5. Coginiwch y cacennau pysgod drwy gynhesu olew mewn padell ffrio a choginio'r cacennau tua 1 min bob ochor yna draeniwch ar bapur cegin .
  6. Gwaenwch gyda'r saws cucumber a dail coriander.

Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

 

Rysáit gan Gareth Richards