Cegin S4C

Cegin S4C

Cacennau Pysgod Tatws Melys

Cynhwysion

  • 300g hadog mwg neu eog
  • 1 ddeilen llawryf  
  • 250ml llaeth
  • 3 shibwnsyn
  • 75g tatws melys (wedi’u berwi a’u stwnshio)
  • 75g tatws gwyn (wedi’u berwi a’u stwnshio)
  • Llond llaw persli ffres
  • Halen a phupur

Gorchudd Briwsion Bara:

  • 1 cwpan blawd plaen
  • 2 wy
  • 1–2 gwpan llawn briwsion bara

Dull

  1. Ffriwch y shibwns wedi’u torri’n ysgafn mewn ychydig o fenyn a diferyn bach o olew llysiau dros wres isel nes eu bod wedi coginio ond heb liwio.
  2. Rhowch yr hadog neu’r eog mewn padell gyda’r ddeilen llawryf a’r llaeth a dewch â hi i’r berw. Tynnwch oddi ar y gwres ar unwaith a gadewch i sefyll – bydd y pysgod yn coginio yng ngwres y llaeth.
  3. Berwch y tatws a’r tatws melys nes eu bod yn feddal, yna’u stwnshio gyda ychydig o’r llaeth o’r pysgod, ychwanegwch ychydig o fenyn, halen a digon o bupur.
  4. Cymysgwch y winwns, y tatws stwnsh a’r persli mewn powlen.
  5. Rhwygwch y pysgod yn ddarnau bach a’u cymysgu’n ysgafn i mewn i’r gymysgedd tatws (ceisiwch gadw rhai darnau’n gyfan). Gwiriwch y sesnin ac ychwanegwch ychydig o halen a phupur os oes angen.
  6. Siapiwch y cymysgedd yn beli bach a’u gwasgu’n fflat ar y ddwy ochr i wneud tua 8 cacen bysgod.
  7. Trochwch bob un mewn blawd, wedyn mewn wy wedi’i guro, a gorchuddiwch â briwsion bara, yna ffriwch y cacennau pysgod yn ysgafn mewn ychydig o olew nes eu bod yn euraidd.

Rysait Lisa Fearn ar gyfer Prynhawn Da

Instagram - lisafearncooks