Cegin S4C

Cegin S4C

Calonnau Mefus a Hufen

Cynhwysion

  • 320g dalen crwst parod
  • 300ml hufen dwbl
  • 1 llwy de bast fanila
  • 2 lwy fwrdd siwgr eisin
  • Jam mefus
  • 200g mefus/mafon

Dull

  1. Cynheswch y ffwrn i 180°C gyda ffan a gosodwch hambwrdd pobi â phapur pobi.
  2. Dad-roliwch y crwst parod a thorrwch siapiau calon gan ddefnyddio torrwr calon 4-modfedd. Rhowch y calonnau ar yr hambwrdd pobi parod, gan adael lle rhyngddynt.
  3. Pobwch am 12–15 munud, neu nes eu bod wedi codi’n dda ac yn euraidd. Tynnwch allan o’r ffwrn a gadewch iddynt oeri’n llwyr.
  4. Tynnwch y coesynnau o’r mefus a’u sleisio.
  5. Mewn powlen fawr, chwipiwch yr hufen dwbl gyda’r fanila a’r siwgr eisin nes ei fod yn drwchus ac yn addas i’w bibellu.
  6. Torrwch bob crwst calon yn ei hanner yn llorweddol. Bibellwch haen o hufen ar y gwaelod, gan adael bwlch bach yn y canol a rhowch y jam. Ychwanegwch ychydig o dafelli mefus a mafon, yna pibellwch haen arall o hufen. Rhowch gaead y crwst ar ei ben. Llwchwch yn ysgafn â siwgr eisin a gweinwch.

Rysait Michelle Evans-Fecci ar gyfer Prynhawn Da 

 

Instagram - bakesbymichelle