Cegin S4C

Cegin S4C

Caserol Ffa a Selsig

Cynhwysion

  • 8 selsig porc
  • 1 llwy fwrdd olew olewydd
  • 1 winwnsyn
  • 2 ewin garlleg
  • 2 dafell bacwn
  • 1 sbrigyn teim,
  • 1 sbrigyn rhosmari
  • 1 sbrigyn saets
  • 1 ddeilen lawryf
  • 1 x tun 400g tomatos ceirios
  • 1 llwy de paprica
  • 1 llwy de naddion tsili (dewisol)
  • 300ml stoc cig eidion
  • 1 x tun 400g o ffa cannellini
  • 250g dail sbigoglys / cêl
  • 1 llwy fwrdd persli
  • Halen a phupur

Dull

  1. Cynheswch y popty ymlaen llaw i 170˚C / Marc Nwy 3.
  2. Cynheswch yr olew mewn dysgl gaserol fawr sy’n addas ar gyfer y popty. Ychwanegwch y selsig a’u ffrio nes eu bod wedi brownio ar bob ochr. Tynnwch allan a’u rhoi i’r ochr.
  3. Ychwanegwch y winwnsyn, y garlleg a’r bacwn a’u ffrio nes eu bod wedi meddalu. Rhowch y selsig yn ôl yn y badell ynghyd â’r tomatos wedi’u torri, y sbeisys, y cwrw, y perlysiau a’r siwgr. Sesnwch gyda halen a phupur. Dewch â’r cyfan i’r berw, gorchuddiwch a’i roi yn y popty (neu parhewch i goginio ar y stôf). Coginiwch am tua 40 munud.
  4. Tynnwch o’r popty, tynnwch y selsig allan a’u torri’n dri darn yr un, yna’u rhoi yn ôl yn y gaserol ac ychwanegu’r ffa. Coginiwch am 10 munud arall heb gaead nes bod y ffa wedi cynhesu drwodd a’r sudd yn dechrau tewhau. Addurnwch gyda phersli wedi’i dorri a gweinwch gyda bara garlleg neu datws stwnsh hufennog.

Rysait gan Nerys Howell ar gyfer Prynhawn Da

 

Instagram - nerys_howell