Twymwch yr olew mewn sosban fawr dros wres uchel ac ychwanegwch y winwns a’i adael i goginio am 5 munud cyn ychwanegu’r garlleg a’r sbeisys a’i coginio am funud. Rhowch y dail cymysg wedi’i golchi a’i torri’n ddarnau cymhedrol yn y sosban a’r coginio tan ei bod wedi gwywo.
Arllwyswch y tomatos a’r menyn cnau mwnci a throwch y gwres i fod yn gymhedrol. Ychwanegwch y ffa a’r saws soi a gadewch i goginio am ryw 8-10 munud.
Sesnwch gyda halen a phupur os oes angen a gweinwch mewn powlenni gyda dail coriander ar ei ben.