I wneud y cawl, torrwch y winwns a’r cennin, a thorrwch y tatws yn giwbiau. Toddwch y menyn mewn sosban ganolig, yna ychwanegwch y llysiau a’u gadael i feddalu am 4–5 munud, gan gymysgu o bryd i’w gilydd. Ychwanegwch y stoc llysiau i’r sosban a’i adael i fudferwi am 15–20 munud gyda’r caead ymlaen.
Cymysgwch neu malwch y cawl nes ei fod yn llyfn, sesnwch i flasu a’i dywallt i bowlenni. Gweinwch gyda chreision bara, bara ffres a darnau o gaws.