Cegin S4C

Cegin S4C

Cawl Pwmpen Cnau Menyn a Chnau Coco

Cynhwysion

  • 500g sialóts neu 1.5kg pwmpen cnau menyn
  • 2 lwy fwrdd olew llysiau
  • 3 pupur coch
  • 3 ewin garlleg
  • 2 lwy fwrdd sbeis Cajun
  • 150ml stoc llysiau
  • Tun 400ml llaeth cnau coco
  • Tun 400g tomatos wedi’u torri
  • Olew i ffrio

Dull

  1. Cynheswch 2 lwy fwrdd o olew mewn sosban fawr. Ychwanegwch y sialóts a’u ffrio’n ysgafn am 10 munud, gan eu troi’n aml, nes eu bod wedi meddalu a brownio.
  2. Ychwanegwch y sboncen, y pupurau a’r cymysgedd sbeisys Cajun, ynghyd â’r llaeth cnau coco, y tomatos tun a’r stoc.
  3. Dewch â’r cymysgedd i’r berw, yna gostyngwch y gwres a’i adael i fudferwi.
  4. Rhowch gaead ar y sosban a choginiwch yn ysgafn am 30 munud, gan droi’r cymysgedd o bryd i’w gilydd, nes bod y sboncen yn dyner.
  5. Gweinwch fel cawl cynnes â darnau mawr o lysiau ynddo, gyda bara crystiog, neu fel cyri gyda reis.

Ryseitiau Lisa Fearn

Instagram - lisafearncooks