Chili Con Carne
Cynhwysion
- 500g briwgig eidion
- 1 winwnsyn
- 2 ewin garlleg
- 1 tsili coch
- 2 sbrigyn teim
- 1 llwy de cwmin, paprica ac oregano
- 400g tomatos tun
- 100-200ml stoc
- Piwrî tomato
- 400g ffa coch
- Halen a phupur
Dull
- Ffrïwch y winwnsyn wedi’i dorri’n fân mewn ychydig o olew mewn sosban fawr /badell ffrio nes ei fod wedi meddalu.
- Ar yr un pryd, mewn padell ar wahân, ffrïwch y briwgig mewn ychydig o olew dros wres cymedrol.
- Ychwanegwch y garlleg, y teim, yr oregano a’r sbeisys at y cymysgedd winwnsyn, yna cymysgwch y briwgig wedi’i goginio a’i droi’n dda.
- Ychwanegwch y tomatos tun a’r piwrî tomato, a gadewch i goginio am tua 5 munud.
- Arllwyswch y stoc i mewn a sesnwch gyda halen a phupur du mâl, yna gadewch iddo fudferwi am tua 20 munud er mwyn i’r blasau ddatblygu.
Rysait Lisa Fearn ar gyfer Prynahwn Da
Instagram - lisafearncooks