1 lwyn heb esgyrn (canon) Cig Oen Cymru PGI neu 2 x stêc coes Cig Oen Cymru PGI
Ar gyfer y rhwbiad:
1 llwy de cwmin mâl
1 llwy de coriander mâl
½ llwy de powdr garlleg
1 llwy fwrdd olew
Cnepyn bach o fenyn
Ar gyfer y salad:
150g ffa soia neu ffa llydan ffres neu wedi’u rhewi
1 llwy fwrdd olew olewydd
1 winwnsyn coch, wedi’i sleisio’n fân
1 ewin garlleg, wedi’i falu
2 sbrigyn rhosmari ffres, wedi’u torri’n fras ar ôl tynnu’r dail
4 betysen fach wedi’u coginio, wedi’u chwarteru
Llond llaw o ddail berwr
Llond llaw o ddail mintys
75g caws ffeta, wedi’i dorri’n giwbiau
Ar gyfer y dresin:
1 llwy fwrdd olew olewydd
1 llwy fwrdd mêl rhedegog
1 lemon, sudd a chroen
Dull
Cymysgwch y cynhwysion ar gyfer y rhwbiad a’u defnyddio i orchuddio’r cig oen.
Coginiwch y ffa yn unol â chyfarwyddiadau’r pecyn, yna draeniwch nhw a’u hoeri mewn dŵr oer. Pliciwch y croen oddi ar y ffa llydan, gan y bydd y lliw yn llawer mwy llachar (dewisol).
Cynheswch yr olew mewn padell ffrio a, dros wres uchel, seriwch y cig oen ar bob ochr, gan ofalu peidio â’i losgi. Trowch y gwres i lawr ac ychwanegu’r menyn. Coginiwch am tua 4 munud bob ochr neu at eich dant, gan ei droi’n achlysurol a’i frasteru gyda’r menyn. Tynnwch y sosban oddi ar y gwres, gorchuddiwch â ffoil a gadewch iddo orffwys tra byddwch chi’n gorffen y salad.
Yn yr un badell, cynheswch ychydig o olew, ychwanegwch y winwnsyn a’r garlleg a’i droi. Ychwanegwch y betys a’r rhosmari a lliwiwch y betys yn ysgafn, tua 5 munud. Tynnwch allan o’r badell a gadewch iddo oeri.
Torrwch y cig oen yn dafelli tenau.
Cymysgwch weddill y cynhwysion salad mewn powlen, ychwanegwch y ffa a’r cymysgedd betys yna arllwyswch y dresin drosto a gweinwch ar unwaith gyda’r cig oen cynnes a’r ffeta.
Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.