Cegin S4C

Cegin S4C

Cobler Ffrwythau Tymhorol

Cynhwysion

Llenwad Ffrwythau

  • 400g riwbob
  • 1 oren
  • 1 llwy de past ffa fanila
  • 50g siwgr brown meddal
  • 300g mefus
  • 100g llus
  • 2 lwy fwrdd blawd corn

Topin Cobler

  • 150g blawd hunan godi
  • 100g menyn heb halen
  • 50g siwgr mân euraidd
  • 100g iogwrt plaen
  • 1 llwy fwrdd ceirch
  • 20g siwgr demerara

Dull

  1. Cynheswch y popty ymlaen llaw i 170° ffan.
  2. Torrwch y riwbob a’i ychwanegu i sosban gyda sudd a chroen yr oren. Ychwanegwch y fanila a’r siwgr a chynheswch dros wres uchel am 2–3 munud.
  3. Torrwch y mefus a’u hychwanegu i ddysgl pobi fawr ynghyd â’r llus a’r blawd corn. Ychwanegwch y riwbob a’r suddion a’u cymysgu’n ysgafn.
  4. Ar gyfer y cobler, rhowch y blawd mewn powlen gyda’r menyn a rhwbiwch gyda’ch bysedd nes ei fod yn debyg i friwsion bara bras. Ychwanegwch y siwgr a’r ceirch a chymysgwch. Arllwyswch yr iogwrt i mewn a dod â’r cymysgedd at ei gilydd gan ddefnyddio cyllell.
  5. Rholiwch ddarnau o’r cymysgedd cobler yn beli o feintiau gwahanol a’u gosod ar ben y ffrwythau. Ysgeintiwch gyda siwgr Demerara a cheirch a phobwch am 35–40 munud nes bod y suddion yn byrlymu a’r topin cobler yn frown euraidd. Gweinwch gyda hufen neu hufen iâ.

Rysait gan Michelle Evans-Fecci ar gyfer Prynhawn Da

Instagram - bakesbymichelle