‘Coleslaw Pnawn Da’
Cynhwysion
- 1/2 bresych gwyn
- 1 winwnsyn coch
- 3 moron
- 1 afal
- 3 darn seleri
- 75g cnau Ffrengig
- 100g mayonaise
- 100g iogwrt
- 1 llwy fwrdd mwstard dijon
- 1 llwy fwrdd finegr gwyn
Dull
- Gan ddefnyddio y prosesydd bwyd, torrwch y bresych yn denau gosodwch mewn powlen , yna gratio y moron a ychwanegwch .
- Torrwch y afalau a’r seleri yn ddarnau bychan ac ychwanegwch gyda’r cnau i’r bresych.
- Nesaf rhaid cymysgu y mayonaise, iogwrt mwstard a’r finegr a’i defnyddio i orchuddio y coleslaw a chymysgu yn dda .
- Gweinwch wedi ysgeintio â phersli a mwy o gnau . Mwynhewch gyda Cyw iâr y heliwr.
Rysait Gareth Richards
Instagram - cegin_gareth