Cynheswch y popty i 180C/fan 160/gas 4. Gwasgarwch y cnau ar hambwrdd pobi a’u rhostio am 7–8 munud nes eu bod yn euraidd. Gadewch iddynt oeri ac yna eu dorri’n fras.
Tynnwch bennau’r cenhinen, ei golchi a’i dorri. Piliwch y pwmpen a’i thorri’n giwbiau 2cm.
Toddwch yr olew a 30g o fenyn mewn padell ffrio fawr, ychwanegwch y pwmpen a’i ffrio ar wres uchel, gan ei droi o bryd i’w gilydd am 8–10 munud nes ei bod yn dechrau brownio. Gostyngwch y gwres ac ychwanegu’r sbeisys, a’u coginio am 1 munud. Yna cymysgwch y cenhinen i mewn a choginio am ychydig funudau cyn tywallt 150ml o stoc llysiau drosto. Gorchuddiwch y badell a’i gadael i fudferwi’n ysgafn nes bod y stoc wedi anweddu a’r pwmpen wedi meddalu. Lledaenwch y cymysgedd ar blât mawr i oeri ac yna cymysgwch y cnau wedi’u rhostio i mewn.
I’w cydosod, toddwch gweddill o’r menyn a brwsiwch ychydig ar hambwrdd pobi. Haenwch 2 ddalen o ‘filo’ ar y tro, gan frwsio pob un â menyn wedi’i doddi. Rhowch chwarter o’r cymysgedd pwmpen ar hyd un o’r ochrau hir, gan adael ymyl 5cm. Torrwch y caws yn giwbiau a rhowch chwarter ar bob un. Rholiwch y cyfan ac yna troelli’r ochrau i greu siâp cracyr. Rhowch ar yr hambwrdd pobi, brwsiwch â mwy o fenyn wedi’i doddi a gwasgarwch yr hadau sesame ar ei ben. Ailadroddwch gyda gweddill y toes i wneud 4 cracyr.
Cynheswch y popty i 200C/180C ffan/gas 6 a pobwch am 30–35 munud nes eu bod yn grimp ac yn euraidd. Gweinwch yn syth.