Cegin S4C

Cegin S4C

Crempog Banana a Menyn Cnau Daear

Cynhwysion

  • 180g blawd Plaen
  • 30g ceirch
  • 2 lwy fwrdd siwgr brown
  • 1 llwy fwrdd powdr codi
  • 240ml llaeth
  • 80g menyn cnau daear
  • 1 banana
  • 2 ŵy mawr
  • 1 llwy de fanila
  • 2 lwy fwrdd olew llysiau

Dull

  1. Rhowch y cynhwysion sych mewn powlen.
  2. Mewn powlen arall cymysgwch y llaeth, menyn cnau daear, banana, wyau, fanila a’r olew.
  3. Cymysgwch y gymysgfa gwlyb i fewn i’r gymysgfa sych, troi’n dda.
  4. Cynheswch padell ffrio ar wres ganolig, urwch gwaelod y badell. Rhowch lwyaid mawr o’r gymysgfa yn y badell a choginiwch am tua 3-4 munud bob ochr nes mae nhw yn euraidd ac wedi codi.
  5. Gweinwch gyda topin o’ch dewis.

Rysait gan Elwen Roberts

Instagram - elwen.roberts