Cegin S4C

Cegin S4C

Crwst Ffigys, Mêl a Mascarpone

Cynhwysion

  • 1 crwst parod
  • 1 llwy fwrdd siwgr Demerara
  • 250g mascarpone
  • 2–3 llwy fwrdd siwgr eisin
  • 1 llwy de fanila
  • 4–5 ffigysen ffres
  • 1–2 lwy fwrdd mêl
  • Llond llaw cnau pistasio
  • Ychydig croen oren
  • Teim neu fintys ffres (dewisol)

Dull

  1. Torrwch y crwst parod yn sgwariau, cylchoedd neu betryalau unigol. Marciwch ymyl bach o amgylch pob darn a priciwch y canol gyda fforc.
  2. Brwsiwch ag wy wedi’i guro a gwasgarwch ychydig o siwgr Demerara dros yr ymylon. Pobwch ar 200°C ffan am 12–15 munud, nes bod y crwst wedi chwyddo ac yn euraidd ysgafn.
  3. Cymysgwch y mascarpone gyda’r siwgr eisin, y fanila ac ychydig o groen oren wedi’i gratio.
  4. Pan fydd y crwst wedi oeri ychydig, rhowch ychydig o’r mascarpone ar bob darn gyda llwy neu fag peipio. Rhowch sleisys o ffigys ffres ar eu pennau, yna diferwch ychydig o fêl drostynt a gwasgarwch y cnau wedi’u torri dros y top.

Rysait Michelle Evans-Fecci.

Instagram - bakesbymichelle