Cegin S4C

Cegin S4C

Crymbl Mefus

Cynhwysion

  • 275g blawd plaen
  • 225g menyn heb halen
  • 100g almonau
  • 125g siwgr brown
  • mefus

Dull

  1. Cynheswch y popty i 200C/180C ffan.
  2. Cymysgwch y blawd a’r almonau, yna rhwbiwch y menyn i mewn nes bod y cymysgedd yn debyg i friwsion bara.
  3. Ychwanegwch y siwgr brown golau a chymysgwch yn dda.
  4. Tynnwch ⅔ o’r cymysgedd a’i dywallt i waelod tun sgwâr 20cm, a’i wasgu i lawr yn gadarn gan ddefnyddio cefn llwy bren
  5. Gorchuddiwch y gymysgedd gyda’r mefus wedi’u sleisio.
  6. Taenwch y gweddill o’r gymysgedd ar ei ben, heb ei wasgu i lawr.
  7. Ychwanegwch almonau neu gnau i addurno, a’i bobi yn y popty am 45 munud nes ei fod wedi coginio’n iawn.
  8. Gadewch iddo oeri yn y tun, yna torrwch yn ddarnau.
  9. Gweinwch gyda iogwrt ffres wedi’i felysu â mêl.

Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

 

Rysáit gan Lisa Fearn.