Cegin S4C

Cegin S4C

Crymbl Melba Eirin Gwlanog

Cynhwysion

Sbwng Almon

  • 300g menyn di halen
  • 270g siwgr mân
  • 4 ŵy mawr + 1 melynwy
  • 1½ llwy de rhinflas fanila
  • ¾ llwy de rhinflas almon
  • 225g blawd codi
  • ½ llwy de powdr pobi
  • 110g almonau mâl
  • 2 lwy fwrdd llaeth

Y Ffrwythau

  • 1 tun eirin gwlanog
  • 200g mafon
  • 75g llus
  • 3 llwy fwrdd siwgr mân
  • 2 lwy fwrdd blawd corn

Y Crymbl

  • 100g blawd plaen
  • 80g almonau mâl
  • 90g menyn
  • 70g siwgr brown golau
  • 30g almonau

Dull

  1. Cynheswch y ffwrn i 180°C (ffan). Leiniwch dun teisen hambwrdd â phapur pobi.
  2. Paratoi'r ffrwythau – Cymysgwch yr eirin gwlanog, y mafon a'r llus gyda'r siwgr a'r blawd corn. Rhowch o'r neilltu wrth baratoi'r sbwng.
  3. Paratoi'r sbwng – Curwch y menyn a'r siwgr mân gyda'i gilydd nes eu bod yn ysgafn. Ychwanegwch yr wyau, un ar y tro, gan gymysgu'n dda ar ôl pob un. Ychwanegwch yr rhinflas fanila a'r rhinflas almon.
  4. Plygwch y blawd codi a'r almonau mâl i mewn nes bod gennych gymysgedd cacen meddal. Ychwanegwch y llaeth os oes angen i lacio'r cymysgedd.
  5. Cydosod y deisen – Taenwch gymysgedd y sbwng yn gyfartal yn y tun. Gwasgarwch y ffrwythau dros y top, gan wasgu rhai ohonynt yn ysgafn i mewn i'r cymysgedd.
  6. Paratoi'r crymbl – Rhwbiwch y menyn oer i mewn i'r blawd a'r almonau mâl nes bod y cymysgedd yn debyg i friwsion bara. Cymysgwch y siwgr brown i mewn, yna taenwch y crymbl yn gyfartal dros y ffrwythau. Gorffennwch drwy wasgaru'r almonau wedi'u sleisio ar ei ben.
  7. Pobwch am 45–55 munud, nes bod y gacen yn euraidd, y crymbl yn grimp, a sgiwer wedi'i roi yng nghanol y sbwng yn dod allan yn lân.
  8. Gadewch i'r deisen oeri yn y tun cyn ei thorri'n sgwariau. Llwchiwch â siwgr eisin cyn ei gweini.

Rysait gan Michelle Evans-Fecci ar gyfer Prynhawn Da

Instagram - bakesbymichelle