Cegin S4C

Cegin S4C

Cwcis Pasg

Cynhwysion

  • 130g menyn heb halen
  • 60g siwgr brown meddal ysgafn
  • 100g siwgr mân
  • 1 ŵy mawr
  • 1 llwy de fanila
  • 280g blawd plaen
  • 1½ llwy de powdr pobi
  • Pinsied o halen
  • 150g ŵy Pasg / darnau siocled
  • 100g wyau bach, wedi’u torri
  • 30g cnau (dewisol)

I Addurno

  • 30g o wyau bach
  • 20g o ddarnau siocled
  • ychydig o wyau crème wedi’u haneru
  • 15g o gnau (wedi’u torri)

Dull

  1. Curwch y menyn a’r holl siwgr gyda’i gilydd nes eu bod yn ysgafn.
  2. Rhowch yr wyau bach, yr ŵy siocled a’r cnau mewn bag bwyd a’u malu gyda rholbren.
  3. Ychwanegwch yr ŵy a’r fanila at y cymysgedd menyn a chymysgwch yn dda. Ychwanegwch y blawd, powdr pobi, halen a’r bag o ddarnau siocled a chymysgwch yn dda.
  4. Rhannwch y cymysgedd cwcis yn ddarnau cyfartal (tua 100g) a’u rholio’n beli. Rhowch yn yr oergell i oeri am 30 munud. Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i 180° ffan.
  5. Tynnwch y peli cwcis o’r oergell a’u rhoi ar dun pobi gan adael digon o le rhyngddynt i’r cwcis ledaenu.
  6. Pobwch am 10–12 munud, tynnwch o’r ffwrn a gwasgarwch weddill yr wyau, y siocled a’r cnau ar ei ben. Gadewch i oeri.

Rysait gan Michelle Evans-Fecci ar gyfer Prynahwn Da

 

Instagram - bakesbymichelle