Cynheswch yr olew mewn padell ffrio a choginiwch y darnau o gyw iâr nes eu bod yn frown golau. Trosglwyddwch i bowlen.
Ffriwch y winwns nes yn feddal, ychwanegwch y garlleg, powdr cyri, cwmin a sinsir, yna coginiwch am ychydig funudau pellach.
Ychwanegwch y tomatos wedi’u torri, y biwrî tomato, mêl, stoc cyw iâr, garam masala a’r ffa chickpea, a gadewch i fudferwi am 20–25 munud. Ychwanegwch y sbigoglys ar y diwedd a’i droi nes iddo wywo.
Sesnwch yn ôl blas a gweinwch gyda reis, siytni mango a coriander ffres.