Cynheswch y popty i 200°C (popty ffan). Cymysgwch y bwmpen gydag ychydig o olew, sesnwch hi, a'i rhostio am 20–25 munud nes ei bod hi newydd feddalu ac yn troi'n euraidd ysgafn. Gallwch hepgor y cam hwn a choginio'r bwmpen yn uniongyrchol yn y cyri os yw'n well gennych.
Cynheswch y gweddill o'r olew mewn sosban fawr. Ychwanegwch y nionyn a'i goginio'n araf am 6–8 munud nes ei fod yn feddal ac yn dechrau troi'n euraidd. Ychwanegwch y garlleg, y sinsir, y past cyri neu'r sbeisys, a'r piwrî tomato. Coginiwch am 1–2 funud, gan droi i sicrhau nad yw'r gymysgedd yn glynu wrth y sosban.
Ychwanegwch y pys cyw (chickpeas), y tomatos wedi'u torri, a'r llaeth cnau coco. Sesnwch gyda halen a phupur, dewch â'r cyfan i ferwi'n ysgafn, a choginiwch am 10–15 munud i ddatblygu'r blas.
Cymysgwch y bwmpen rostiedig i mewn a gadewch iddi fudferwi am 5 munud arall; ychwanegwch ychydig o stoc neu ddŵr os yw'r saws yn rhy drwchus. Os nad ydych wedi rhostio'r bwmpen, ychwanegwch hi ynghyd â'r tomatos a'r llaeth cnau coco, a gadewch iddi fudferwi am tua 20–25 munud, nes ei bod yn feddal.
Cymysgwch y sbigoglys i mewn nes ei fod newydd wywo. Ychwanegwch sudd leim a siytni mango, os ydych yn eu defnyddio. Blaswch ac addaswch y sesnin.
Gorffennwch drwy ychwanegu coriander ffres, naddion almon, a thro arall o sudd leim.