Cegin S4C

Cegin S4C

Cyw Iâr Catsw

Cynhwysion

Cyw iâr

  • Olew llysiau
  • 4 bron cyw iâr
  • 2 wŷ
  • 100g blawd plaen
  • Halen a phupur
  • 1 llwy de perlysiau cymysg
  • 200g briwsion bara / panko / creision ŷd

 Y saws

  • Ychydig olew llysiau
  • 2 winwnsyn
  • 2 foronen
  • 10g siwgr brown
  • 4 ewin garlleg
  • Sinsir
  • 60g blawd plaen
  • 40g powdr cyri canolig
  • 1 llwy de garam masala
  • 30g mêl
  • 2 lwy fwrdd saws soi
  • Pinsiad naddion tsili
  • 800ml stoc cyw iâr

I’w weini

  • Reis a dail salad
  • Shibwns

Dull

  1. Ar gyfer y cyw iâr, torrwch y bronnau cyw iâr yn ddarnau. Rhowch y blawd, yr wyau a’r briwsion bara mewn tair powlen ar wahân, a sesnwch y blawd gyda halen, pupur a pherlysiau sych. Trochwch y darnau cyw iâr, ychydig ar y tro, yn y blawd, wedyn yn yr wy ac yna yn y briwsion bara. Rhowch y cyw iâr wedi’i orchuddio ar blât tra byddwch yn paratoi’r saws.
  2. Ar gyfer y saws cyri, cynheswch ychydig o olew mewn padell a ffrïwch y winwnsyn a’r foronen am 10 munud. Ychwanegwch y siwgr, y garlleg a’r sinsir a choginiwch am ychydig funudau pellach. Ysgeintiwch y blawd, y powdr cyri a’r garam masala drosto a choginiwch am 1 munud. Cymysgwch y mêl a’r saws soi i greu past. Arllwyswch y stoc cyw iâr i mewn, gorchuddiwch a mudferwch am 20 munud nes bod y foronen wedi meddalu. Rhowch y saws mewn cymysgydd a’i gymysgu nes ei fod yn llyfn, yna rhowch nol i’r badell i gadw’n gynnes.
  3. Ar gyfer y cyw iâr, cynheswch yr olew mewn padell ffrio fawr a ffrïwch am 3–4 munud ar bob ochr nes ei fod yn euraidd a chrimp. Trosglwyddwch i hambwrdd i gadw’n gynnes mewn ffwrn isel tra byddwch yn coginio gweddill y cyw iâr.
  4. I’w weini, rhowch reis wedi’i goginio ar un ochr y bowlen a salad ar yr ochr arall. Gosodwch y cyw iâr ar ei ben ac ychwanegwch y saws. Addurnwch gyda darnau o shibwns wedi’u sleisio.

Rysait gan Michelle Evans-Fecci ar gyfer Prynhawn Da

 

Instagram - bakesbymichelle