Cegin S4C

Cegin S4C

Cyw Iâr Chennin a Lemwn

Cynhwysion

  • 4 clun cyw iâr
  • 2 genhinen
  • 2 ewin garlleg
  • 300ml stoc cyw iâr
  • 200ml hufen dwbl
  • Naddion croen a sudd ½ lemwn
  • Sbrigiau teim
  • Olew olewydd
  • Halen a phupur du
  • Persli ffres

Dull

  1. Cynheswch y popty i 180°C ffan.
  2. Rhowch y cennin wedi’u sleisio mewn tun rhostio, diferwch olew olewydd drostynt a’u sesno â halen a phupur. Ysgeintiwch y garlleg, croen lemwn a’r teim drostynt.
  3. Tywalltwch y stoc cyw iâr a’r hufen i’r tun a chymysgwch bopeth yn dda.
  4. Rhowch y cluniau cyw iâr yn y tun gyda’r croen i fyny a’u rhostio am 35–40 munud, nes bod y cyw iâr wedi coginio drwyddo a’r saws yn byrlymu ac wedi tewhau ychydig.
  5. Gorffennwch gyda gwasgiad o sudd lemwn a chwistrelliad o bersli ffres wedi’i dorri.
  6. Gweinwch gyda thatws ffondant a llysiau gwyrdd.

Rysait Michelle Evans-Fecci ar gyfer Prynhawn Da 

 

Instagram - bakesbymichelle