Gosodwch y cyw iâr ar hambwrdd torri a gwnewch doriad ymhob darn i greu poced gan agor yn wastad.
Cymysgwch hanner y caws gyda’r caws hufennog a defnyddiwch i lenwi y cyw iâr gan codi y cig nol drostynt .
Lapiwch 2 ddarn o facwn o amgylch bob darn a gosodwch mewn dysgl rhostio wedi uro a phobwch am 25 munud.
Yn y cyfamser mewn sosban ychwanegwch y saws tomato, mêl, mwstard, siwgr brown, finegr a’r dŵr a mudferwi i greu saws trwchus am tua 5 munud.
Dewch a’r cig o’r ffwrn ac arllwyswch y saws drostynt a gorchuddio’r cig gyda gweddill y caws yna nol i’r ffwrn am 5 munud i doddi y caws ag ychwanegu lliw euraidd, yna ysgeintio a persli a gweinwch gyda coleslaw cartref.