Neidio i'r prif gynnwys
Hafan S4C
S4C Clic
Newyddion
Amserlen Teledu
English
Golau
Tywyll
Pori
Pori
Adloniant
Chwaraeon
Cerddoriaeth
Drama
Ffeithiol
Cyw
Stwnsh
Appearance
Golau
Tywyll
English
Hafan Cegin
Llysieuol
Cig
Gan Colleen Ramsey
Draenogyn y môr (seabass) a lemwn
Gan
Dan ap Geraint
Hawdd
Cynhwysion
2 ffiled o ddraenogyn y môr (seabass)
50g menyn
25g sifys (chives)
25g persli
1 lemwn
1 sudd lemwn
50g caprys (capers)
25g brwyniad (anchovies)
Dull
Cynheswch olew mewn ffrimpan ar dymheredd cymedrol.
Ychwanegwch sesnin (halen a phupur) i'r pysgod yna gosodwch groen gyntaf mewn i'r pan.
Ffriwch am 3-4 munud. Unwaith maent wedi lliwio, trowch drosodd, ychwanegwch y menyn yna diffoddwch y gwres.
Unwaith i'r menyn doddi, tynnwch allan y seabass a'i gosod i un ochr.
Gosodwch y ffrimpan nol ar y gwres.
Ychwanegwch bersli, sifys, lemwn, sudd lemwn, caprys a brwyniad. Cynheswch yna'i gosod dros y seabass.
Rysáit gan Dan ap Geraint, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.