Cegin S4C

Cegin S4C

Eirin Rhost gyda Ricotta

Cynhwysion

I'r Eirin:

  • 6 eirin
  • 1–2 llwy de mêl
  • Croen ½ oren
  • Sudd ½ oren
  • Dail teim ffres

I’r Ricotta Mêl

  • 250g caws ‘ricotta’
  • 1–2 llwy de mêl
  • ½ llwy de fanila
  • Naddion croen ½ oren

Ar gyfer y Briwision Pistachio

  • 50g cnau pistachio
  • ½ llwy de sinamwn mâl
  • Pinsiad halen môr
  • Mêl

Dull

  1. Cynheswch y popty i 170°C. Trefnwch yr hanner eirin gyda’r ochr sydd wedi’ dorri yn gwynebu i fyny mewn dysgl bobi fach a’u taenellu â mêl. Gwasgarwch y naddion croen oren, y teim, a’r sudd oren ar eu pen. Rhostiwch am 12–15 munud nes bod yr eirin yn feddal, yn gludiog ac yn dechrau carameleiddio.
  2. Ar gyfer y ricotta mêl, cymysgwch y ricotta, y mêl, y fanila a naddion croen oren mewn powlen nes ei fod yn llyfn ac yn hufenog. Blaswch ac addaswch y melysrwydd os oes angen.
  3. Mewn padell ffrio sych dros wres ganolig, tostiwch y cnau pistachio nes fod ganddyn arogl cryf. Ychwanegwch y sinamwn, naddion croen oren, halen a thipyn bach o fêl. Taflwch i’w gorchuddio, tostiwch am 30 eiliad arall, yna tynnwch oddi ar y gwres a gadewch i oeri.
  4. I weini, rhowch swîrl o’r ricotta mêl mewn powlen fach neu ar blât. Trefnwch yr eirin rhost cynnes ar ei ben a gwasgarwch y briwsion pistachio sbeislyd drostynt.

Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Rysáit gan Michelle Evans-Fecci.