Cegin S4C

Cegin S4C

Enchiladas Cyw Iâr a Ffa

Cynhwysion

  • 8 tortilla blawd
  • 2 fron cyw iâr wedi'u coginio  (neu defnyddiwch gyw iâr rhost dros ben)
  • 1 tun ffa cymysg neu ffa coch neu ffacbys
  • 1 winwnsyn
  • 1 pupur coch
  • 2 ewin garlleg  
  • 1 llwy de paprica mwg
  • 1 llwy de cwmin mâl
  • 1 llwy de powdr tsili (dewisol)
  • 100g caws Cheddar aeddfed
  • 1 llwy fwrdd olew
  • Halen a phupur du

Dull

  1. Paratowch y nionyn a'r pupur.
  2. Rhowch nhw ar hambwrdd pobi. Ychwanegwch y darnau o gyw iâr wedi'u sleisio, y garlleg a'r sbeisys, a choginiwch yn y popty am 20 munud nes bod y cyw iâr wedi coginio'n llwyr a'r llysiau newydd feddalu.
  3. Ar ôl coginio, ychwanegwch y ffa a hanner y saws enchilada.
  4. Llenwch bob tortilla gyda'r cymysgedd, ychwanegwch hanner y caws, rholiwch nhw, a'u rhoi mewn dysgl sy'n addas ar gyfer y popty gyda'r ochr sydd wedi'i selio yn wynebu i lawr.
  5. Arllwyswch weddill y saws enchilada dros y tortillas a thaenwch weddill y caws ar ei ben.
  6. Pobwch ar 170°C (popty ffan) am 15–20 munud, nes bod y saws yn byrlymu a'r caws yn euraidd.

Rysait Lisa Fearn ar gyfer rhaglen Prynhawn Da.

Instagram - lisafearncooks